Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2020
Amser:
13.32 -
17.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6343
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Joyce Watson AS (yn lle Hefin David AS) Suzy Davies AS Janet Finch-Saunders AS Helen Mary Jones AS (yn lle Siân Gwenllian AS) Russell George AS |
Tystion: |
Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru Kieron Rees, Pennaeth Polisi a Materion Allanol - Prifysgolion Cymru Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor - Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor - Prifysgol Abertawe Dr David Blaney, Prif Weithredwr – HEFCW Dr Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus - Colegau Cymru Dr Andrew Cornish, Pennaeth a Phrif Weithredwr - Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion Philip Blaker, Prif Weithredwr - Cymwysterau Cymru Denver Davies, Pennaeth Monitro a Chydymffurfiaeth - Cymwysterau Cymru Joe Atkinson, Ymgynghorydd y Wasg a Materion Cyhoeddus - UCM Cymru Jim Dickinson, Golygydd Cysylltiol – WONKHE Dr Myfanwy Davies, Llywodraethwr y Cyngor wedi'i phenodi gan Staff Academaidd - Prifysgol Bangor Dan Beard, aelod gweithredol Addysg Uwch UNISON a chadeirydd UNISON Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Tanwen Summers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Siân Gwenllian AS. Croesawodd y Cadeirydd Joyce Watson AS a Helen Mary Jones AS a oedd yn dirprwyo ar eu rhan.
1.5 Croesawodd y Cadeirydd Russell George AS i’r cyfarfod yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, o ystyried diddordeb y Pwyllgor mewn sgiliau, ymchwil ac arloesi.
2
COVID-19: Sesiwn
dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar addysg uwch
ac addysg bellach gyda chynrychiolwyr addysg uwch
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru, Prifysgolion Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
5 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach gyda chynrychiolwyr addysg bellach
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Golegau Cymru, Coleg Sir Gar, Coleg Ceredigion a Chymwysterau Cymru.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 7
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
8 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach: lleisiau staff a myfyrwyr
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan NUS Cymru, WONKHE, Prifysgol Bangor ac UNSAIN Cymru.
9 Papurau i’w nodi
9.1 Cafodd y papurau eu nodi.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
10.1 Derbyniwyd y cynnig.
11 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
12 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod y dull gweithredu
12.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Bil.
12.2 Cytunodd yr Aelodau ar yr amserlen mewn egwyddor, yn amodol ar fod slotiau cyfarfod ar gael.
12.3 Nododd y Pwyllgor ei fod yn disgwyl nifer fawr o ymatebion i’r ymgynghoriad o ystyried y diddordeb yn y Bil hwn. Nododd ymhellach y byddai’n diweddaru’r Pwyllgor Busnes a Llywodraeth Cymru pe bai’r nifer fawr o ymatebion, neu’r trefniadau presennol ar gyfer gweithredu brys, yn achosi unrhyw anawsterau o ran yr amserlen arfaethedig.